Suzy Davies AS
 Comisiynydd
 4 Mehefin 2020

     

    


Annwyl Suzy,

Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19

Yn ddiweddar mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19.  Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y bu’n rhaid newid arferion gwaith y rhan fwyaf o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’r pandemig, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall effaith COVID-19 ar y cyrff a ariennir yn uniongyrchol drwy Gronfa Gyfunol Cymru.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor ynglŷn â’r effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar y sefyllfa ariannol eleni, gan gynnwys unrhyw arbedion a chostau ychwanegol. Er bod y Pwyllgor yn gwerthfawrogi y gallai unrhyw arbedion o ganlyniad i newidiadau mewn arferion gwaith gael eu gwrthbwyso gan gostau eraill, byddai'n ddefnyddiol cael dadansoddiad llawn i’n galluogi i ystyried y goblygiadau ariannol yn llawn.

Rwy'n cydnabod y bydd y Comisiwn yn edrych ar hyn yng nghyd-destun y cyllid a ddarperir i gyflawni rhwymedigaethau'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau, yn ogystal â’r cyllid a roddir i'r Comisiwn ei hun, felly byddai'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am y ddau faes, gyda chymaint o wybodaeth â phosibl ar yr adeg hon.

Byddai'n ddefnyddiol cael eich ymateb erbyn 7 Gorffennaf.

Yn gywir

 

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English.